Holi ac Ateb ar yr Ymgynghoriad ar Gyflogau Aelodau'r Cynulliad

Mae'r Bwrdd Taliadau annibynnol yn cynnig pennu cyflog sylfaenol Aelodau'r Cynulliad ar ddechrau'r Cynulliad nesaf yn 2016 ar £64,000.

Mae hwn yn gyflog newydd, ar gyfer swydd newydd fydd â llawer mwy o gyfrifoldeb. Mae'n rhoi i ystyriaeth swyddi cymharol mewn mannau eraill a chyflwr economi Cymru.

Mae'r Bwrdd yn gwneud cynllun pensiwn yr Aelodau yn llai hael, sy'n lleihau'r gost ychwanegol i'r trethdalwr.

Caiff cyfanswm y tâl i lawer o ddeiliaid swyddi ei gyfyngu neu ei leihau ychydig.

Ar gyfer y blynyddoedd ar ôl 2016, byddai cyflogau yn newid yn unol ag enillion canolrifol yng Nghymru.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal tan 12 Ionawr a hoffem annog pobl i ddarllen ein hadroddiad ac ymateb yn adeiladol i'n cynigion.

 

Y Bwrdd Taliadau

Sefydlwyd y Bwrdd gan Fesur Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2010ac mae'n gyfrifol am sicrhau bod gan Aelodau'r Cynulliad adnoddau teg a phriodol i gyflawni eu swydd hanfodol o gynrychioli pobl Cymru, dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif a deddfu ar gyfer Cymru.

Yr aelodau presennol yw:

-         Sandy Blair CBE DL(Cadeirydd)

-         Mary Carter 

-         Stuart Castledine  

-         Yr Athro Monojit Chatterji 

-         Yr Athro Laura McAllister 

Gellir cael rhagor o fanylion, gan gynnwys proffiliau yn: http://senedd.cynulliad.cymru/mgCommitteeDetails.aspx?ID=375

Pam rydych yn credu bod swydd Aelod Cynulliad yn cyfiawnhau'r cyflog hwn?

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gyfrifol am wariant trethdalwyr o £15 biliwn i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru; mae'n goruchwylio ac yn herio'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud; mae'n deddfu ar gyfer Cymru; ac mae'n cynrychioli buddiannau ein dinasyddion.

Mae swydd Aelod Cynulliad bellach yn gyfartal â swydd deddfwyr cenedlaethol eraill yn y DU ac mae eu rolau hefyd union yr un fath:

·         maent i gyd yn cynrychioli eu hetholwyr;

·         maent i gyd yn cynnig, yn diwygio ac yn cymeradwyo deddfwriaeth;

·         maent i gyd yn awdurdodi symiau enfawr o wariant cyhoeddus; ac

·         maent i gyd yn goruchwylio gweithgareddau llywodraethau cenedlaethol.

Bydd swydd Aelod Cynulliad yn cario llawer mwy o gyfrifoldeb yn 2016 nag y mae heddiw - gydag awdurdod newydd dros drethiant a benthyciadau'r llywodraeth a'r tebygrwydd o gynnydd pellach mewn ehangder cymhwyster deddfwriaethol.

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ymgymryd â'i gyfrifoldebau gyda llawer yn llai o Aelodau na seneddau eraill yn y DU a thramor, ac mae'n llai na llawer o awdurdodau lleol yng Nghymru. Felly, nid oes unlle i guddio yn y Cynulliad Cenedlaethol: mae gan bob Aelod lefel uchel o gyfrifoldeb neu awdurdod gweithredol o ran goruchwylio'r llywodraeth. Yn ei dro, mae hyn yn golygu na all y sefydliad fforddio i gael Aelodau nad oes ganddynt y cymwyseddau i ymateb i'r heriau hyn.

Sut y gwnaethoch y penderfyniad hwn?

Mae llawer o gyfrifoldebau ar ysgwyddau Aelodau'r Cynulliad ac mae pwysau'r gwaith yn cynyddu. Yn sgil cyfrifoldebau newydd, bydd disgwyliadau newydd ar Aelodau'r Cynulliad.

Mae'r hyn a wnawn yn asesiad gwrthrychol o'r hyn y mae swydd mor bwysig yn y Cynulliad yn 2016 yn ei haeddu o ran taliadau.

Ystyriwyd y dasg o dri safbwynt gwahanol a chyfunwyd y dystiolaeth o bob un o'r rhain. Y tair prif ystyriaeth oedd:

-        sicrhau bod y cyflog yn adlewyrchiad priodol o'r cyfrifoldebau ar ysgwyddau Aelodau'r Cynulliad yn y Pumed Cynulliad ynghyd ag ansawdd yr unigolion sydd eu hangen i gyflawni rôl mor hanfodol;

-        ystyried gwerth y pecyn cyfan o daliadau, gan gynnwys cyflog a phensiwn;

-        cymharu data ar daliadau ag enillion a rolau tebyg yn yr economi ehangach, yn arbennig yng Nghymru.

Drwy ein gwaith ymchwil a dadansoddi o ran pob un o'r ystyriaethau hyn, daethpwyd i gasgliadau tebyg iawn, a oedd yn ein sicrhau bod sail gadarn i'r cynnig.

Sut mae cynllun pensiwn yr Aelodau yn cael ei newid?

Rydym yn newid cynllun pensiwn yr Aelodau er mwyn ei gyfateb â'r rhai mewn mannau eraill yn y sector cyhoeddus. Bydd y cynllun yn llai hael o ran y manteision sy'n cronni a bydd y gost i'r trethdalwr o ran cyfraniadau'r cyflogwr yn gostwng. Yn ystod blwyddyn gyntaf y Cynulliad nesaf, bydd y newidiadau a wnawn yn arbed dros £200,000 i'r trethdalwr.

Faint yn fwy y bydd yn ei gostio?

Bydd y newid yn y cyflog sylfaenol yn ychwanegu tua £580,000 i gostau cyflogau Aelodau yn 2016-17. Bydd hanner y swm hwnnw (£290,000) yn cael ei wrthbwyso drwy arbedion o newidiadau eraill rydym yn eu gwneud - gostyngiad yn y cyflogau ychwanegol a delir i ddeiliaid swyddi a gostyngiad yng nghyfraniad y trethdalwr i gynllun pensiwn yr Aelodau. Y gost ychwanegol net fydd £290,000 yn 2016-17.

Sut mae hyn yn cymharu â deddfwrfeydd eraill?

Cyflog Aelod Seneddol yn San Steffan fydd £74,000 o'r flwyddyn nesaf. Yn yr Alban, cyflog Aelod o Senedd yr Alban ar hyn o bryd yw £58,678, a bydd hynny'n cynyddu bob blwyddyn yn unol ag enillion cyfartalog yn yr Alban. Cyflog Aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon ar hyn o bryd yw £48,000.

Rydym wedi pwysleisio'n gyson fod angen i gyflog Aelodau gael ei ystyried ochr yn ochr â gwerth cyfraniad y trethdalwr i'w pensiynau er mwyn gallu rhoi ffigur ar gyfer cyfanswm eu tâl. Wrth ddefnyddio'r mesur hwn, bydd cyfanswm tâl Aelod Seneddol y flwyddyn nesaf tua £83,000. Cyfanswm y tâl i Aelod o Senedd yr Alban heddiw (2014) yw tua £71,000. O dan ein cynigion ni, cyfanswm y tâl i Aelod Cynulliad yn 2016 fyddai tua £75,000.

Sut mae hyn yn cymharu â'r sector preifat / economi Cymru?

Mae'r gwaith ymchwil a ddarparwyd ar ein cyfer gan yr HayGroup yn awgrymu y gellid disgwyl cyflog canolrif, ar gyfer swydd sydd â phwysau cymharol, o £82,500 yn y sector preifat.   Yn y sector cyhoeddus / dielw, y ffigur cyfatebol fyddai tua £69,300.

Mae data a gynhwysir yn ein hadroddiad yn dangos bod y ffigur arfaethedig yn gyson â'r hyn a delir mewn rolau uwch eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. 

Ble y gallaf ddod o hyd i wybodaeth gefndir ychwanegol?

Mae holl ymgynghoriadau blaenorol y Bwrdd, a'r Penderfyniad blynyddol sy'n ymwneud â phob agwedd ar gyflog, pensiynau, cymorth a lwfansau i Aelodau wedi'u cyhoeddi ar dudalennau'r Bwrdd ar y we.

Cyflwynodd y Bwrdd dendr a chomisiynodd ddau adroddiad annibynnol i gefnogi ei waith ar daliadau:

-        Gwnaeth Prifysgol Bangor waith ymchwil i'r rhwystrau sy'n wynebu pobl sy'n ceisio dod yn Aelod Cynulliad ac a yw cyflog yn ffactor arwyddocaol yn y penderfyniad i sefyll. Mae ei hadroddiad - Gwerthuso'r rhwystrau i ddod i'r Cynulliad: Beth sy’n ein rhwystro rhag sefyll i gael ein ethol? - ar gael i'w lwytho. Roedd y gwaith yn cynnwys cyfweliadau ag 20 o bobl, gan gynnwys Aelodau blaenorol a chyfredol, yn ogystal ag ymgeiswyr blaenorol, a swyddogion pleidiau.

-        Comisiynwyd yr HayGroup i gymharu pwysau a chyfrifoldebau cymharol amrywiaeth o rolau a wneir gan Aelodau'r Cynulliad. Mae ei adroddiad - Job Evaluation and Remuneration Benchmarking for Assembly Members - hefyd ar gael i'w lwytho oddi ar ein tudalennau gwe. Roedd y gwaith yn cynnwys cyfweliadau â naw deiliad swydd gwahanol, yn ogystal ag Aelod o'r meinciau cefn.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd yr ymgyngoriad hwn ar agor tan 12 Ionawr. Yna, byddwn yn ystyried y canlyniadau ac yn cyhoeddi ein pecyn llawn o gynigion ym mis Chwefror. Bydd y rhain hefyd ar agor i'r cyhoedd ymgynghori arnynt a byddwn yn cytuno ar y pecyn terfynol, a fydd yn cynnwys cyflog, pensiwn a phob agwedd arall ar gymlorth ariannol ar gyfer y Cynulliad nesaf, yn ystod gwanwyn 2015.